
TYSTEBAU

“Diolch yn fawr, mae’r ffordd rydych chi’n chwarae mor brydferth, cawsom ni adborth anhygoel amdanat ti gan westeion y gala ac fe greuoch chi awyrgylch hynod o arbennig yn y neuadd, diolch!”
"Mae Aisha yn dod â deinameg gyffrous a chreadigol i The Limelight Orchestra. Wrth berfformio ystod eang o gerddoriaeth fodern, mae Aisha yr un mor gyffyrddus wrth berfformio caneuon clasurol James Bond ag y mae hi'n wrth chwarae anthemau clasurol Ibiza! Mae rhyngweithio Aisha â’i chyd-gerddorion yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr oherwydd ei thalent odidog fel telynores ac yn ei natur gymdeithasol, hawddgar. Fel Cyfarwyddwr Cerddorol, rwy’n ffodus i gael Aisha (fel rhan o’r gerddorfa) wrth i’r galw amdani gynyddu."
“"Rwyf wedi adnabod Aisha am fwy na dwy flynedd. Roedd gen i weledigaeth i ddechrau 'Cerddoriaeth fel Therapi' ar gyfer cleifion a’u teuluoedd yn The London Clinic. Cawsom bleser o’r mwyaf yn gwrando ar Aisha yn chwarae’r delyn ar achlysuron arbennig fel Nadolig, Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys a Bore Coffi Macmillan. Eleni lansiwyd 'Summer of Music' ac ar ôl hynny dechreuon ni 'Healing thru Music'. Unwaith yr wythnos, mae Aisha yn ymweld â'r ysbyty ac yn perfformio cerddoriaeth i gleifion unigol a chleifion sy'n derbyn gofal diwedd bywyd a'u teuluoedd. Mae Aisha yn chwarae mewn pob adran o’r clinig ar gyfer cleifion a staff. Mae'r adborth rydym yn ei dderbyn amdani bob amser yn rhagorol, gan nodi bod cerddoriaeth Aisha yn rhyfeddol, hudol, prydferth, ymlaciol, ac yn eu cludo i fyd arall o heddwch a thawelwch. Mae gan Aisha dawn naturiol o ddod âg iachâd a heddwch i unrhyw un sy'n gwrando ar ei cherddoriaeth. Gall Aisha chwarae cerddoriaeth i’r safon uchaf posibl. Nid yw llawer o gerddorion rwy'n eu hadnabod yn gallu sicrhau arddull mor arbennig i'w cerddoriaeth ac mae ei threfniadau yn cael eu cynllunio'n fanwl. Fel person, mae Aisha bob amser yn brydlon, proffesiynol, onest, gwrtais, hawddgar ac yn sensitif i deimladau pobl eraill. Mae Aisha yn ffyddlon ac mae'n cyfathrebu gyda sensitifrwydd â phobl ar bob lefel. Braint o’r mwyaf yw adnabod Aisha a dyna hefyd yw'r teimlad gan bob un o'n cleifion yn yr ysbyty. Dymunwn y gorau iddi am ei gyrfa yn y dyfodol."
"Mae Aisha yn delynores eithriadol a rhagorol. Ar ol i mi glywed pa mor hyfryd a rhyfeddol mae’n chwarae, rwyf wedi comisiynu hi i chwarae mewn sawl digwyddiad dilynol. Ni allaf ei argymell yn ddigon uchel, mae hi'n gerddor eithriadol a thalentog."
"Rydyn ni i gyd mor ddiolchgar i chi am chwarae rhan mor bwysig ym mhriodas Alice a Rob. Roedd eich chwarae yn gwbl ysbrydoledig... ffilmiodd fy ffrind dy berfformiad a dwi'n ei chwarae drosodd a throsodd. Roeddech chi'n edrych mor hardd gyda'ch delyn a'r blodau prydferth wrth eich ochr. Ni allaf ddiolch digon i chi am fod mor barod i anfon samplau i ni er mwyn sicrhau bod gennym ni'r math cywir o gerddoriaeth. Roedd y gwesteion yn llawn canmoliaeth i chi."
“"Llongyfarchiadau ar berfformiad ysblennydd! Eich cerddoriaeth oedd uchafbwynt y noson! Rwyf wedi derbyn cymaint o ganmoliaethau i chi. Diolch yn fawr iawn am fynd y milltir ychwanegol ar gyfer y digwyddiad ac am ei wneud yn noson wirioneddol arbennig."