BYWGRAFFIAD
Telynores ysbrydoledig a medrus yw Aisha sydd wedi perfformio ar draws y Deyrnas Unedig yn y Royal Festival Hall, Birmingham Symphony Hall, Lancaster House a Thŷ’r Arglwyddi. Fel aelod angerddol o gerddorfeydd, mae Aisha wedi perfformio gyda London Symphony Orchestra, Bournemouth Symphony Orchestra, City of Birmingham Symphony Orchestra, Birmingham Contemporary Music Group ac Academi St Martin in the Fields. Mae hi wedi gweithio gydag arweinyddion megis Gianandrea Noseda, Kazuki Yamada, Ryan Wigglesworth a John Wilson.
I gydnabod ei hymrwymiad a’i gallu eithriadol, mae Aisha wedi derbyn MMSF Philharmonia Fellowship ac LSO Conservatoire Scholarship.
Yn 2023, enillodd Aisha y Rhuban Glas Offerynnol ar gyfer cerddorion dros 19 oed, derbyniodd Ysgoloriaeth Peggy a Maldwyn Hughes yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac enillodd Gystadleuaeth Unawdydd Ifanc Eastbourne Symphony Orchestra. Cyn hynny enillodd Ysgoloriaeth Nansi Richards yng Ngŵyl Delynau Cymru 2022. Yn sgil hyn, perfformiodd ar Lwyfan Encore yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae cydnabyddiaeth bellach o’i thalent ragorol yn cynnwys Gwobr Larry Adler, Olive Jenkins Memorial Bursary, Gwobr Peter Simon a Gwobr Guinness gan yr Academi Gerdd Frenhinol.
Mae Aisha wedi sefydlu ei hun yn rhyngwladol ac yn derbyn cydnabyddiaeth fyd-eang. Derbyniodd yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Cerddoriaeth y Byd yng Ngŵyl Delyn Ryngwladol Cymru 2023, enillodd Wobr Ddeuawd Broffesiynol yng Nghystadleuaeth Telyn Ryngwladol Hong Kong 2022, ac enillodd y wobr gyntaf yn y Gystadleuaeth Delyn Ryngwladol “Walled Town”, Cittadella, yn yr Eidal. Derbyniodd hefyd yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Telyn Ryngwladol Infinity a Diploma o Gystadleuaeth Ryngwladol Glowing Harp.
-
Yn unawdydd creadigol a galluog, mae Aisha wedi perfformio Concertino Tailleferre gyda Eastbourne Symphony Orchestra, Concerto Telyn Glière gydag Enigma Orchestra a Danses Sacrée et Profane Debussy gyda’r London Youth String Orchestra. Cafodd ei gwahodd i berfformio datganiad yng Ngŵyl ‘Harp on Wight’ ar Ynys Wyth, Eglwys Gadeiriol Caerlŷr, Salon Music Highgate a’r Foundling Museum.
Mae Aisha yn rhan o brosiect Healing Through Music yn y London Clinic ac wedi cydweithio â Orchestra of the Swan ar brosiectau yn Acorn Childrens Hopsice a Chaffi Muse, Hereford. Yn frwdfrydig a phenderfynol i ledaenu pwysigrwydd cerddoriaeth yn y gymuned, mae Aisha yn gweithio mewn cartrefi preswyl, ysbytai ac ysgolion SEND. Ar ôl cyflawni Diploma Addysgu LRAM yn llwyddiannus, gan ddefnyddio ei sgiliau aml-ddoniog a’i haffinedd â phlant, mae’n gweithio fel athrawes beripatetig ac mae hi wrth ei bodd gyda’r rhyfeddod a’r chwilfrydedd mae’r plant yn eu dangos tuag at gerddoriaeth.
Graddiodd Aisha o'r Academi Gerdd Frenhinol gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf BMus a Gwobr y Rhaglywiaeth dan hyfforddiant Karen Vaughan. Mae hi ar hyn o bryd yn astudio ar ysgoloriaeth tuag at Feistr yn y Celfyddydau yn yr Academi dan hyfforddiant y delynores enwog Catrin Finch.
Mae Aisha yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth y mae wedi’i chael gan Wobr Ôl-raddedig Help Musician, Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth Drake Calleja, Ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, Ysgoloriaeth Glynne Jones gan Ymddiriedolaeth Ryan Davies ac Ymddiriedolaeth Cherubim.